Skip to main content

‘Bydd gweledigaeth heddychlon bob tro yn drech na lleisiau rhyfelgar’

Arith Jeremy Corbyn as yn llawn, ar Ddiwrnod Coffhau Hiroshima

Diolch i CND CYMRU am y gwahoddiad i’r digwyddiad hwn sy’n coffhau’r defnydd o fomiau niwcliar yn Hiroshima a Nagasaki ym 1945.

Dilynwyd y cannoedd o filoedd a fu farw ar y pryd gan lawer mwy o farwolaethau o ganlyniad i’r llygredd niwcliar a’r cancr a ddaeth yn eu sgil.

Wrth i’r ras  arfau gyflymu - gyda’r Undeb Sofietaidd, Prydain, Ffrainc a nes ymlaen Tseina yn cael gafael ar eu harfau eu hunain, profi mwy o arfau oedd y canlyniad.

Roedd llawer o’r profion hyn wedi digwydd yn y Môr Tawel ond hefyd ar dir yr Unol Daleithiau a’r Undeb Sofietaidd . Yn ei dro roedd y profi yn creu rhagor o lygredd gwenwynig ac yna marwolaethau milwyr oedd yn ‘guinea pigs' a sifiliaid nad oedden nhw yn sylweddoli beth oedd yn digwydd.

Fe dyfodd y mudiad heddwch yn fyd eang mewn ymdrech i atal ymlediad yr arfau erchyll hyn, ac i gael gwared â’r arfau o’r gwledydd a oedd biau nhw'n barod.

Arweiniodd y symudiadau hyn at y Gytundeb Yn Erbyn Lledaenu Arfau Niwcliar sydd o dan ystyriaeth yn y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd y mis hwn.

Ymledodd y Mudiad Heddwch ar draws y byd ac yn ei sgil datblygodd y syniad o ardaloedd heb arfau niwcliar. Roedd hyn yn llwyddiannus wrth greu di-arfogi niwcliar yn Ne Affrica gan wneud Affrica, America Ladin a llawer o Ganolbarth Asia yn ardaloedd sy’n rhydd o arfau niwcliar.

Dylai llwyddiant anhygoel Cymru wrth ddatgan ei bod hi’n wlad ddi-niwcliar gael ei gymeradwyo a’i glodfori. Bydd  gweledigaeth heddychlon bob tro yn drech na lleisiau rhyfelgar.

Nawr, mae tensiynau yn cynyddu yn y byd hwn . Yn y ganrif hon yn unig gwelwyd gwrthdaro milwrol enfawr gydag goresygyniadau ar Afghanistan ac Irac, a rhyfeloedd yn Syria, Libya a’r Yemen.

Gwaddol y rhyfeloedd hynny yw tlodi, di-gartrefedd, teroristiaeth a newyn.

Mae penderfyniad cwbwl anghywir Rwsia i ymosod ar Wcraen wedi arwain at densiynau newydd, mwy o golli bywydau a mwy o ansefydlogrwydd rhyngwladol.

Mae’r ymladd yma hefyd wedi creu llawer o ffoaduriaid, y nifer fwya mewn hanes o bosib, a dylai rhain cael eu trin fel dioddefwytr rhyfel a thrychineb , gan dderbyn croeso.

Wrth lwc yn achos Wcraen maen nhw yn cael eu croesawu a’u cefnogi. Ond dylai hyn hefyd ddigwydd yn achos dioddefwyr yn sgil rhyfeloedd a gormes mewn gwledydd eraill.

Mae byd sy’n rhydd o arfau niwcliar yn bosibilrwydd. Dyw'r arfau hyn ddim yn cynnig amddiffyniad. Os ydyn nhw’n cael eu defnyddio dim ond y sicrwydd o filiynau o farwolaethau  a difodiant bywyd ar draws rhannau helaeth o’n planed a ddaw.

Mae’r symudiad i greu gwaharddiad ar arfau niwcliar er mwyn creu byd heb arfau niwcliar  yn cael ei gefnogi gan fwyafrif o’r gwledydd sy’n perthyn i’r Cenhedlaoedd Unedig; er nad yw’r cyfryngau ym Mhrydain wedi rhoi unrhyw sylw i hynny.

Ein llywodraeth yn San Steffan, a’r gwladwriaethau eraill sydd wedi datgan fod ganddynt arfau niwcliar, i gyd wedi cynyddu niferoedd eu taflegrau niwcliar , a hyn ar ol degawdau o dorri nol ar niferoedd. Yn ogystal mae gwledydd eraill fel India, Pakistan , Israel a Gogledd Corea bellach wedi cael gafael ar arfau niwcliar.

Ond mae’r naw gwladwriaeth hon mewn lleiafrif yn llys barn y byd.
Ar adeg diwrnod coffhau Hiroshima , gadewch i ni ddefnyddio iaith heddwch wrth dreial dod a chadoediad a heddwch i bobl yr Wcraen a Rwsia…a llefydd eraill lle mae’na ryfela fel Yemen.

Gadewch i ni roi diolch i’r bobol yna sydd wedi gweithio dros heddwch. Rhoddodd ein ffrind Bruce Kent ei fywyd i’r achos o heddwch a thros ddynoliaeth gan ysbrydoli cenhedlaeth i gredu mewn gwir ddiogelwch i'r byd, rhyddid rhag newyn a thlodi, y cyfle i gael addysg a iechyd da, diwylliant o heddwch a chreadigrwydd adeiladol,    Yn ni’n rhoi diolch i Bruce am ei waith trwy gydol ei fywyd hir, ardderchog.

Hefyd yn ni’n hala ein cefnogaeth a chydlyniad i Julian Assange sy’n dioddef mewn carchardy lefel uchel gan wynebu'r bosibilrwydd o gael ei hala i’r Unol Daleithiau lle mae’n wynebu 175 o flynyddoedd dan glo am y drosedd o ddatgelu anghyfiawnderau a bygythiadau i’n pobloedd gan rymoedd mwya peryglus ein byd.

Yma yn hedd yr Eisteddfod  a bro brydferth Tregaron - man geni Henry Richard, Apostol Heddwch  a oedd wedi dyfeisio'r syniad o'r Cenhedloedd Unedig - ein dyletswydd yw creu byd heddychlon, trwy gyfiawnder a chynaladwiaeth, lle mae adnoddau yn mynd at y dibenion hynny yn lle difodiant y blaned.

OWNED BY OUR READERS

We're a reader-owned co-operative, which means you can become part of the paper too by buying shares in the People’s Press Printing Society.

 

 

Become a supporter

Fighting fund

You've Raised:£ 10,282
We need:£ 7,718
11 Days remaining
Donate today