Skip to main content

Adolygiad Ysbrydoliaeth radicalaidd gydol ei oes

Comiwnydd, gweinidog, bardd a deintydd - cafodd y Cymro TE Nicholas fywyd hir-hoedlog ryfeddol, yn ôl GWYN GRIFFITHS

Ar Drywydd Niclas y Glais
gan Hefin Wyn
(Y Lolfa, £14.99)

UN O ofidiau fy mywyd yw i mi methu cyfle i gyfarfod TE Nicholas. Wn i ddim a oedd e’n pregethu yn ein capel ni neu gapel arall yn y cyffiniau, ond pan ddeuai i’r ardal at Phil Rowland y deuai am ei ginio neu de. Pwysodd Phil, gweithiwr mewn garage ac o dueddiadau gwleidyddol nid annhebyg i Nicholas, arnaf i ddod am de gyda Nicholas. Yr oeddwn yn rhy swil - disgybl pumed neu chweched dosbarth oeddwn i ar y pryd.

Flynyddoedd wedyn clywais ei fod yn ŵr caredig a pharod i roi o’i amser i siarad gyda phlant a phobol ifanc. Collais gyfle mawr fy mywyd.

I lawer ohonom bryd hynny deintydd oedd TE Nicholas, a fel y dywed Hefin Wyn yn ei gyfrol “Ar Drwydd Niclas y Glais,” deintydd mewn adeg pan oedd statws deintydd rywbeth yn debyg i statws y dyn lladd mochyn. Nid oedd yn anarferol i ddioddefwr y ddannodd geisio meddyginiaeth yn efail y gof ac, yn ôl Hefin Wyn, siop y bwtsiwr.
 

Roedd y straeon yn frith yn ardal fy mebyd am rai a gawsant wared â dant poenus yn eistedd ym mon clawdd wrth i Nicholas fynd i’r afael â’r broblem.
 

Troi at ddeintydda wnaeth Nicholas i osgoi erledigaeth swyddogion y gyfraith pan oedd yn pregethu heddychiaeth yn y capeli adeg yr Ail Ryfel Byd. ’Doedd y saint ddim yn gwbl hapus gyda’i neges ac yn sicr ddim gyda phresenoldeb aelodau o’r heddlu cudd yn cadw cofnod manwl o’i bregeth. Difyr sylwi mai yr unig gofnod sydd ar gael o’r pregethau hynny yw yn archifau’r Swyddfa Gartref a’r rheini yn Saesneg!
 

Mewn cyfrol swmpus ceir darlun manwl o berthynas Nicholas â’r wasg Gymraeg - boed fel bachgen ifanc ar yr aelwyd ar odre’r Preseli yn gwrando ar ei dad yn darllen a thrafod Baner Thomas Gee a wedi hynny fel golygydd Cymraeg y Merthyr Pioneer, y papur a sefydlwyd gan Keir Hardie yn 1911.

Bu’n gyfrannwr cyson i’r Cymro ar un adeg, ond wrth i gymylau’r Ail Ryfel grynhoi, fe’i gwaharddwyd. Tebyg fu ei berthynas â’r Tivyside, papur ardal Aberteifi ac er cael croeso gan Prosser Rhys yn Baner ac Amserau Cymru, ni fu’r berthynas honno’n esmwyth, chwaith.
Yn achos Y Cymro medrai ddibynnu ar ei hen gyfaill Dewi Emrys i gynnwys ei sonedau yn y Babell Awen, pan nad oedd croeso i’w erthyglau.

Un peth a’m synnodd oedd mor doreithiog yr oedd Nicholas fel bardd. Heblaw ei gerddi - llawer ohonynt yn wleidyddol — yr oedd yn gystadleuwr cyson mewn eisteddfodau a hynny gyda cherddi nad oeddynt yn ôl ei batrwm arferol. “Puteinio” ei awen, meddai Hefin Wyn. Gwir, o bosib, er bod cystadlu eisteddfodol yn fodd i hogi dawn.

Ni fyddai’n afresymol nodi fod, un adeg, swm go dda o arian yn dod gyda choron neu gadair yr eisteddfodau, yn sicr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a thebyg fod symiau digon derbyniol i’w cael ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Ni enillodd y goron genedlaethol er dod yn agos a chipiodd dros hanner cant o gadeiriau mewn eisteddfodau llai. Mae Hefin Wyn yn son amdano’n anfon dwy bryddest i Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1939, un i blesio’r beirniaid a’r llall i blesio’i hunan. Daeth y bryddest a luniodd i blesio’r beirniad yn ail, ond ni thybiodd y beirniaid ei bod hi, na’r un farnwyd yn orau - gan Garadog Prichard — yn deilwng.

Yr oedd yn sonedwr rhwydd, rhy lithrig ym marn rhai beirniad. Y neges oedd yn bwysig i Nicholas — heddwch a brawdoliaeth dyn  a gwelodd obaith yn Rwsia ac — wedi rhywfaint o ddadrithiad maes o law trodd ei olygon tua China.  Ceir yn y gyfrol lawer am ei berthynas â Keir Hardie a’i ddyddiau yn y Blaid Lafur Annibynnol. Ond er iddo ymuno â’r Blaid Gomiwnyddol yn 1926, ni ddywedir dim am ei berthynas gydag arweinwyr y blaid ar lefel Brydeinig. Ni cheir unhyw gyfeiriad at Harry Pollitt a ddaeth o fewn mil o bleidleisiau i ennill sedd Dwyrain y Rhondda wrth Lafur yn 1945.

Ni cheir cyfeiriad, chwaith at Idris Cox, a fu am gyfnod byr yn olygydd y Daily Worker, Cymro-Cymraeg amlwg yn y Blaid Gomiwnyddol. Bu’n drefnydd y blaid yn y de ac ymladdodd am sedd Dwyrain y Rhondda ar ôl Harry Pollitt. Yr oedd yn eisteddfodwr - arferai fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol fel gohebydd y Daily Worker a’r Morning Star. Bu Cox hefyd yn gynrychiolydd ei blaid ar bwyllgor yr Ymgyrch Senedd i Gymru yn 1950. Buasai’n ddiddorol gwybod beth oedd y berthynas rhwng dau pur debyg mewn llawer ystyr.

Nid oedd Nicholas yn heddychwr digyfaddawd. Gwrthwynebai’r Ail Ryfel Byd, eto yr oedd fel nifer o rai eraill o gyffelyb dueddiadau yn gefnogol i Ryfel Sbaen ac i ddulliau chwyldroadol.

Fe gawn lawer gan Hefin Wyn yn trafod ei farddoniaeth a’i syniadau, a barn eraill amdano fel bardd — barn amrywiol yn fynych. Diddorol canfod iddo fod yn ysbrydoliaeth i’r Waldo ifanc, ac o blith ein cyfoedion ifanc, Hywel Meilyr Griffiths. Ac fe erys yr ysbrydoliaeth honno o hyd wrth i’r Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru a Chymdeithas yr Iaith uno i ail-sefydlu Cymdeithas Niclas y Glais.  

OWNED BY OUR READERS

We're a reader-owned co-operative, which means you can become part of the paper too by buying shares in the People’s Press Printing Society.

Become a supporter

Fighting fund

You've Raised:£ 8,728
We need:£ 9,272
21 Days remaining
Donate today